Dyddiad yr Adroddiad

03/11/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Datblygiadau heb ei awdurdodi – galw am gamau gorfodi a.y.y.b

Cyfeirnod Achos

202502582

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cyngor Abertawe wedi methu â chymryd camau ynghylch datblygiad heb awdurdod, wedi methu â gorfodi rheolaethau cynllunio, ac nad oedd wedi mynd i’r afael â’i bryderon yn yr ymateb i’r gŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y mater wedi bod yn mynd rhagddo ers cyfnod hir a bod ymateb i’r gŵyn wedi’i ddarparu, nad oedd yr ymateb i’r gŵyn yn cynnwys llawer o fanylion ynghylch y pryderon a godwyd, mai ychydig iawn o gamau a gymerodd y Cyngor dros gyfnod hir o amser, a bod oedi sylweddol wedi bod. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr X a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyhoeddi’r Hysbysiad Rhybudd Gorfodi o fewn pythefnos, sicrhau bod y Swyddog Gorfodi wedi siarad â’r Adran Gyfreithiol i gychwyn achos erlyn, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr X am y camau y mae wedi’u cymryd, ac i gynghori Mr X y bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu’n rheolaidd am y cynnydd. Ar ben hynny, o fewn 4 wythnos, bydd y Cyngor yn rhoi ymateb i gŵyn Mr X sy’n cynnwys mwy o fanylion ynghylch y pryderon a godwyd, yn nodi pam na chymerwyd unrhyw gamau gweithredu o’r blaen, ac yn cydnabod ac yn ymddiheuro am yr oedi y gellid bod wedi’i osgoi. Bydd yr ymateb hwn hefyd yn darparu crynodeb / cronoleg o’r digwyddiadau sydd wedi digwydd yn ystod y 12 mis diwethaf a bydd yn cynnwys ymddiheuriad ac esboniad pam na chyhoeddwyd yr Hysbysiad Rhybudd Gorfodi a pham na gychwynnwyd achos cyfreithiol. Bydd yr ymateb i’r gŵyn hefyd yn cynnwys cynnig o daliad iawndal ariannol o £200 i gydnabod yr oedi a’r amser a’r drafferth o gwyno i’r Ombwdsmon.