Dyddiad yr Adroddiad

02/21/2024

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol

Pwnc

Darparwr Annibynnol y GIG

Cyfeirnod Achos

202306635

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B am y gwasanaeth a gafodd gan bractis deintyddol (“y practis”) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Cwynodd nad oedd y Practis yn arddangos polisi cwynion nac wedi rhoi copi iddo. Dywedodd nad oeddynt wedi rhoi copi o’r polisi iddo ynghylch taliadau na’r polisi ymddygiad afresymol. Roedd Mr B hefyd yn anhapus gydag ymateb y Practis i’w gŵyn a’i fod wedi rhoi rhybudd ffurfiol iddo yn dilyn ei gŵyn.

Canfu’r asesiad o gŵyn Mr B fod y Practis wedi ymddiheuro iddo am y trallod a’r anhwylustod a brofodd yn ystod ei ymweliad. Canfu’r asesiad hefyd na chafodd Mr B ei atgoffa o’r polisi talu cyn i’w driniaeth ddeintyddol gael ei chynnal ac na chafodd gopi o’r polisïau cwyno ac ymddygiad afresymol.

Cytunodd y Practis i gadarnhau i Mr B yn ysgrifenedig fod y rhybudd ffurfiol wedi cael ei ddileu o’i gofnod a rhoi copi o’r polisi iddo sy’n cynnwys telerau talu, y polisi ymddygiad afresymol a’r polisi cwynion. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ffordd resymol o ddatrys cwyn Mr B a chafodd ei chau ar y sail hon.