Dyddiad yr Adroddiad

10/17/2023

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol Darparwr Annibynnol y GIG

Pwnc

Darparwr Annibynnol y GIG

Cyfeirnod Achos

202304109

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms C nad oedd y practis deintyddol wedi ymateb i’w chyfathrebiad, ac yn benodol i gŵyn a gododd ym mis Mai 2023.

Canfu’r Ombwdsmon bod y practis deintyddol wedi diystyru cwyn gychwynnol Ms C, a dderbyniwyd drwy e-bost. Dywedodd bod hyn wedi achosi gofid a rhwystredigaeth i Ms C.

Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Gofynnodd a derbyniodd gytundeb y practis deintyddol i gofnodi’r gŵyn yn ffurfiol, cyhoeddi cydnabyddiaeth gyda’u hymddiheuriad a darparu ymateb i’r gŵyn erbyn diwedd y mis.