Dyddiad yr Adroddiad

12/13/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Darparwr Annibynnol y GIG

Cyfeirnod Achos

202204004

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am sawl agwedd ar safon y gofal a ddarparwyd i’w mam, tra’r oedd yn glaf mewnol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn 2022. Barn yr Ombwdsmon oedd bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r pryderon a godwyd ac felly nad oedd cyfiawnhad dros yr ymchwiliad. Fodd bynnag, nododd fod Mrs X wedi cyfeirio at ansicrwydd ynghylch y diagnosis yn 2021 nad oedd wedi cael sylw yn yr ymateb i’r gŵyn.

Felly, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu esboniad ysgrifenedig ffurfiol pellach i Mrs X, gan egluro’r sefyllfa glinigol, ac unrhyw anghysondeb, ynghylch y diagnosis o ganser (yn benodol fel y nodir yng nghofnodion y meddyg teulu yn 2021). Cytunodd i wneud hyn o fewn 4 wythnos i ddyddiad y penderfyniad hwn.