Dyddiad yr Adroddiad

30/06/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Dadgofrestriad

Cyfeirnod Achos

202408867

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod y Feddygfa wedi ei thynnu oddi ar ei rhestr. Cwynodd hefyd am y wybodaeth a ddarparwyd iddi gan y Bwrdd Iechyd mewn ymateb i’w chŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Feddygfa wedi rhoi rhybuddion nac esboniad i Miss A cyn iddi gael ei thynnu oddi ar restr y feddygfa, yn unol â’i pholisi. Yn ogystal, rhoddodd y Bwrdd Iechyd ymateb i Miss A a’r Aelod Senedd lleol i’w chŵyn a oedd yn cynnwys gwybodaeth anghywir ynglŵn â’i thynnu oddi ar restr y feddygfa.
Cafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa i, o fewn 4 wythnos, adolygu’r camau a gymerwyd ac ystyried a oes ganddi weithdrefnau a chanllawiau priodol ar waith ar gyfer ystyried tynnu cleifion oddi ar ei rhestr. Cytunodd hefyd i roi esboniad penodol i Miss A ynghylch pam roedd y Feddygfa yn ystyried ei bod yn briodol ei thynnu oddi ar ei rhestr cleifion heb rybudd nac esboniad. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymddiheuriad i Miss A a’i Haelod Senedd lleol am y wybodaeth anghywir a ddarparwyd yn flaenorol ac esboniad pam y digwyddodd hyn, o fewn 4 wythnos.