Dyddiad yr Adroddiad

11/02/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Cynnal a chadw ffyrdd/adeiladu ffyrdd

Cyfeirnod Achos

202407773

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms T fod Cyngor Gwynedd wedi methu â rhoi sylw i’w phryderon yn yr ymateb i gwynion ac wedi methu ag egluro pam fod y dyfynbris am y gwaith i’r gwrychoedd wedi cynyddu’n sylweddol.

 

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â rhoi sylw i’r pryderon a godwyd ac egluro’r cynnydd yn y costau. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Ms T am beidio â rhoi sylw i’w phryderon wrth ymateb i gwynion, i ymddiheuro am ddiffyg eglurder ynghylch costau rheoli traffig, ac i egluro pam y digwyddodd hyn, o fewn 4 wythnos. Cytunodd y Cyngor hefyd i ddarparu ymateb llawn i gwynion yr achwynydd, o fewn 4 wythnos, sy’n mynd i’r afael â’i holl bryderon, gan roi gwybod i’r achwynydd bod yr adran yn fodlon diwygio’r costau yn y dyfynbris gwreiddiol o £1680.00 + TAW, a chynnig iawndal ariannol o £150 i’r achwynydd i gydnabod yr amser a’r drafferth o gwyno i’r Ombwdsmon.