Dyddiad yr Adroddiad

09/14/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Cynnal a chadw ffyrdd/ adeiladu ffyrdd

Cyfeirnod Achos

202303833

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B nad oedd wedi cael ymateb gan Gyngor Caerdydd (“y Cyngor”) i gŵyn a wnaeth am wyneb anwastad a thoredig un o lwybrau cerdded a beicio’r Cyngor.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd Mr B wedi cael ymateb ffurfiol gan y Cyngor.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor ac er mwyn datrys cwyn Mr B, cytunodd y byddai, cyn pen 20 diwrnod gwaith, yn ymchwilio i’r gŵyn ac yn ymateb iddi ac y byddai hefyd yn ymddiheuro i Mr B am y methiant i ymateb. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol ac felly ni ymchwiliodd.