Dyddiad yr Adroddiad

02/21/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Pwnc

Cynnal a chadw ffyrdd/adeiladu ffyrdd

Cyfeirnod Achos

202308170

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi methu rhoi copi o’i ymateb cam dau iddi.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu rhannu canlyniad cam dau gyda’r achwynydd, dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anhwylustod i Mrs B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mrs B a rhoi copi iddi o’i ymateb cam dau, sy’n cynnwys atebion i’w hymholiadau sy’n weddill, o fewn 3 wythnos.