Dyddiad yr Adroddiad

08/14/2023

Achos yn Erbyn

Trivallis

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202303088

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr E fod Trivallis wedi methu ag ymgymryd â gwaith trwsio’r to sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers dros 6 mis.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod ar ran Trivallis i ymgymryd â’r gwaith atgyweirio angenrheidiol. At hynny, roedd Trivallis wedi methu â darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Mr E. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr E. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb Trivallis i ymddiheuro a rhoi’r esboniadau angenrheidiol am yr esgelustod, ymgymryd â’r gwaith atgyweirio angenrheidiol a chynnig talu £75 i Mr E am ei amser a’r anghyfleustra o wneud ei gŵyn i’r Ombwdsmon o fewn 2 wythnos.