Dyddiad yr Adroddiad

01/25/2024

Achos yn Erbyn

Tai Calon Community Housing

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202307988

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cyflwynodd Mrs C gŵyn ar ran Mr D am Dai Cymunedol Tai Calon (“Tai Calon”). Dywedodd Mrs C nad oedd drws ffrynt allanol Mr D yn addas i’w bwrpas a bod bwlch yn y ffrâm, er bod Tai Calon wedi ceisio ei atgyweirio. Dywedodd fod Mr D wedi gorfod rhoi blancedi dros y drws o ganlyniad i’r bwlch oherwydd bod drafft a dŵr yn dod i mewn. Yn olaf, dywedodd fod Mr D yn ŵr oedrannus a’i iechyd yn wael.

Canfu’r Ombwdsmon fod Polisi Atgyweiriadau Tai Calon yn cynnwys addewid i deilwra eu gwasanaeth atgyweirio i denantiaid agored i niwed ag angen cefnogaeth ychwanegol. Roedd o’r farn bod Mr D yn denant agored i niwed ac y dylai fod Tai Calon yn cymryd camau priodol i ddatrys y mater cyn gynted â phosibl. Nid oedd yr Ombwdsmon yn ei gweld yn dderbyniol gadael Mr D am 6 mis arall cyn datrys y mater yn barhaol; yn ôl Tai Calon, dyna fyddai’r amserlen ar gyfer gosod drws newydd.

Ar gais yr Ombwdsmon, cytunodd Tai Calon i wneud gwaith atgyweirio dros dro o fewn 5 diwrnod gwaith i atal y drafft a’r dŵr rhag mynd i mewn. O fewn 10 diwrnod gwaith, byddent yn talu iawndal ariannol o £250 i Mr D am ei gostau egni ychwanegol. O fewn 8 wythnos, byddent yn darparu drws ffrynt allanol newydd i eiddo Mr D fel datrysiad parhaol i’r broblem â’r drafft a’r dŵr sy’n dod i mewn.