Dyddiad yr Adroddiad

10/16/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ynys Môn

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202303668

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi methu ymateb yn ffurfiol i’w chwyn a gyflwynwyd ym mis Awst 2023.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi gweithredu yn unol â’u proses gwyno ffurfiol, ac y bu esgeulustod o ran ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i gyhoeddi ymddiheuriad am yr oedi a’r esgeulustod wrth ymateb, a chyhoeddi ymateb ffurfiol i’r gŵyn o fewn 2 wythnos.