Dyddiad yr Adroddiad

08/22/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202303510

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs G nad oedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymgymryd â’r gwaith atgyweirio angenrheidiol ar ei fflat.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cyhoeddi ymateb i’r gŵyn Cam 1, nid oedd wedi uwchgyfeirio pryderon Mrs G i Gam 2 yn ei broses gwyno. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs G. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mrs G i ymddiheuro ac esbonio’r methiant i gofnodi ei phryderon fel cŵyn Cam 2, cynnig talu iawndal o £75 iddi am yr amser a’r anghyfleustra o wneud ei chŵyn i’r Ombwdsmon, a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn Cam 2 o fewn 3 wythnos.