Dyddiad yr Adroddiad

01/04/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202205343

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms A fod Cyngor Sir Gâr wedi methu â chywiro ei phroblemau gyda dŵr yn dod i mewn i’w heiddo ac wedi methu â chofnodi’r gwaith a oedd wedi’i argymell mewn adroddiad gan syrfëwr.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod gan y Cyngor cyn cofnodi’r gwaith angenrheidiol. Roedd hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Ms A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwilio.
Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro wrth Ms A a thalu £100 iddi am fethu â chofnodi’r gwaith. Cytunodd y Cyngor hefyd, erbyn diwedd Ionawr, i ymateb i gŵyn Ms A mewn dau gam, gan gynnwys drwy gyflwyno atodlen o waith a oedd i’w gwblhau.