Dyddiad yr Adroddiad

03/21/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202207603

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr L fod y Cyngor wedi methu datrys problem lleithder a llwydni yn ei eiddo a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am unrhyw gynnydd.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi oedi cyn datrys y mater ac roedd hyn wedi achosi anhwylustod a rhwystredigaeth i Mr L.

Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr L am yr oedi, darparu taliad amser a thrafferth o £50 iddo, a chwblhau’r holl waith angenrheidiol o fewn 6 wythnos.