Dyddiad yr Adroddiad

06/01/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202300958

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod Cyngor Abertawe wedi methu darparu ymateb ffurfiol i’w chŵyn ynghylch niwsans sŵn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ymateb i’w chŵyn, a oedd wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mrs X, a arweiniodd iddi gysylltu â’r Ombwdsmon. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyhoeddi ei ymateb ffurfiol, ac i ymddiheuro am yr oedi o fewn pythefnos.