Dyddiad yr Adroddiad

01/04/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202205646

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr L fod Cyngor Abertawe wedi methu â sicrhau bod gwaith atgyweirio a gynlluniwyd wedi’i gwblhau’n amserol gan deimlo bod y cyfathrebu wedi torri lawr.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb i bryderon Mr L yn unol â’i weithdrefn gwyno a dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac oedi i Mr L.

Yn lle ymchwilio, gofynnodd yr Ombwdsmon am gytundeb y Cyngor i ymddiheuro wrth Mr L am yr oedi’n ymateb yn ffurfiol i’w bryderon, ac ymchwilio’n ffurfiol i’w bryderon yn unol â’i weithdrefn gwyno, o fewn 30 diwrnod gwaith.