Dyddiad yr Adroddiad

09/01/2023

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Unedig Cymru

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202302422

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd Cymdeithas Tai Unedig Cymru (“y Gymdeithas Tai”) wedi ymateb i gŵyn a wnaeth iddynt am y lleithder yn ei heiddo. Cwynodd fod y lleithder yn ei chartref wedi bod yn mynd yn waeth ac yn waeth a bod y Gymdeithas Tai wedi bod yn anwybyddu ei hymdrechion i gael y Gymdeithas i gywiro’r problemau.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Gymdeithas Tai wedi ymateb i gŵyn Ms A ers hynny, ond nid oedd wedi rhoi digon o wybodaeth i Ms A am y camau a fyddai’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r gwaith atgyweirio nac wedi rhoi amcan o’r amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith, o ystyried bod rhai o’r amserlenni y tu allan i reolaeth y Gymdeithas Tai.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Gymdeithas Tai ac, er mwyn datrys cwyn Ms A, cytunodd y byddai, cyn pen 20 diwrnod gwaith, yn ysgrifennu at Ms A er mwyn darparu ymateb pellach o ran mynd i’r afael â’r problemau hyn. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol ac felly ni ymchwiliodd.