Dyddiad yr Adroddiad

05/04/2023

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Taf

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202207416

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X bod Cymdeithas Tai Taf wedi methu ymateb i’w gŵyn ynglŷn â llwydni honedig yn ei gartref.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas wedi ymateb i gŵyn Mr X, nid oedd wedi mynd i’r afael â’r elfen hon o’i gŵyn. Penderfynodd i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro am yr esgeulustod a’r oedi, cynnig taliad gwneud iawn o £50 i Mr X, darparu diweddariad manwl ar y gwaith arfaethedig a chyflwyno ei hymateb i’r gŵyn ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau ymhen 3 wythnos.