Dyddiad yr Adroddiad

01/19/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Siarter (rhan o'r Grŵp Pobl)

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202307826

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Mynegodd Ms X gŵyn ffurfiol am leithder a llwydni i Gymdeithas Charter Housing (Rhan o Grŵp Pobl) yn Nhachwedd 2023. Cwynodd nad oedd wedi derbyn eu hymateb.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas yn dal i fod wrthi’n ymchwilio i’w phryderon ac yn disgwyl am wybodaeth, ond eu bod wedi methu â diweddaru Ms X. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol i Ms X.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ar ei chais, cytunodd y Gymdeithas i ysgrifennu at Ms X, o fewn 2 wythnos, i ymddiheuro am fethu â’i diweddaru ac i esbonio’r sefyllfa bresennol iddi.