Dyddiad yr Adroddiad

01/11/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Newydd

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202306444

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am yr amser yr oedd Cymdeithas Tai Newydd yn ei gymryd i atgyweirio ei heiddo ac nad oeddent wedi dweud erbyn pryd y byddai’r gwaith atgyweirio wedi’i gwblhau.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas Dai wedi cymryd camau i wneud gwaith atgyweirio, bod angen gwneud ychydig mwy o waith atgyweirio o hyd. Dywedodd y Gymdeithas Dai eu bod yn gwneud y gwaith atgyweirio hwn fel rhan o ddarn mwy o waith yr oedd angen tendr ffurfiol i’w gaffael. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ar gais yr Ombwdsmon, cytunodd y Gymdeithas Dai i ddiweddaru Miss A bob 2 fis am hynt y tendr ffurfiol/amserlenni tebygol y gwaith.