Dyddiad yr Adroddiad

06/21/2023

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Linc Cymru

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202301539

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr N fod Cymdeithas Tai Linc Cymru wedi methu cwblhau’r gwaith atgyweirio strwythurol er iddo adael ei gartref dros dro ym mis Rhagfyr 2022.

Canfu’r Ombwdsmon mai’r rheswm dros yr oedi oedd canfod difrod strwythurol mwy difrifol ar ôl dechrau’r gwaith. Roedd yn rhaid i’r tîm datblygu gael arfarniad o’r opsiynau ar gyfer yr eiddo. Roedd y Tîm Gweithredol i fod i benderfynu ar hyn ar 20 Mehefin 2023. Canfu hefyd nad oedd y pryderon a godwyd wedi’u cofnodi’n ffurfiol o dan y broses gwyno. Mae’n dweud bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra ychwanegol i Mr N.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r mater hwn heb ymchwiliad a cheisiodd gytundeb y Gymdeithas i gofnodi cwyn yn ffurfiol a chyhoeddi ymateb o fewn pythefnos i benderfyniad y Tîm Gweithredol.