Dyddiad yr Adroddiad

02/10/2023

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202206299

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms Z fod Cymdeithas Dai Hafod wedi methu â gwneud gwaith atgyweirio angenrheidiol ar ei heiddo a heb ymateb i’w chŵyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod gan y Gymdeithas gyda chwblhau’r gwaith angenrheidiol. Roedd hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Ms Z. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwilio.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro wrth Ms Z ac ymateb i’w chŵyn, yn cynnwys atodlen waith, o fewn pedair wythnos.