Dyddiad yr Adroddiad

06/21/2023

Achos yn Erbyn

Cartrefi Dinas Casnewydd

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202301077

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs H nad oedd wedi cael canlyniad boddhaol gan Cartrefi Dinas Casnewydd yn dilyn cwyn a gyflwynwyd ym mis Chwefror 2023.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi rhoi gwybod i Mrs H am ei chanlyniad dros y ffôn ond nad oedd wedi cyhoeddi ymateb ysgrifenedig yn unol â’i phroses gwyno. Achosodd hyn rwystredigaeth ychwanegol i Mrs H.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad a gofynnodd am gytundeb y Gymdeithas i gyhoeddi ymateb ysgrifenedig yn nodi canlyniad ei chŵyn o fewn pythefnos.