Dyddiad yr Adroddiad

30/10/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ynys Môn

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202503443

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod y Cyngor wedi gwrthod ystyried ei chwyn am ddatblygiad tai ger ei chartref. Roedd y Cyngor hefyd wedi gwrthod ymateb i unrhyw gyfathrebu pellach am y datblygiad. Dywedodd Mrs A fod ei hawl i gwyno wedi’i chymryd oddi wrthi a’i bod yn teimlo ei bod wedi cael ei bwlio gan y Cyngor.

Canfu’r Ombwdsmon, wrth ddod i’w benderfyniad i gyfyngu ar gyswllt Mrs A, nad oedd y Cyngor wedi dilyn ei Bolisi Rheoli Cyswllt – Camau Gweithredu Annerbyniol gan Gwsmeriaid (“y Polisi”). Ni chafodd Mrs A wybod bod y penderfyniad i gyfyngu ar ei chyswllt wedi’i wneud o dan y Polisi. Roedd hyn yn golygu na chafodd wybod am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Achosodd hyn anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mrs A. Cytunodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Cyngor, o fewn 4 wythnos, i ailystyried ei benderfyniad i gyfyngu ar gyswllt Mrs A â’r Cyngor yn unol â’r Polisi, i ysgrifennu at Mrs A yn ei hysbysu o safbwynt y Cyngor ac i roi ymddiheuriad ysgrifenedig iddi am y methiant i gydymffurfio â’r Polisi wrth ddod i’w benderfyniad.