Dyddiad yr Adroddiad

06/30/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ddinbych

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202302199

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss L nad oedd Cyngor Sir Ddinbych wedi ymateb i’w phryderon am ddefnydd didrwydded a heb ei ganiatáu o eiddo preswyl wrth ymyl ei heiddo. Cwynodd hefyd am niwsans sŵn a methiant y Cyngor i weithredu ar ei phryderon.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, er bod Miss L wedi codi nifer o gwynion gyda’r Cyngor, nad oedd wedi uwchgyfeirio’r rhain o dan ei drefn gwyno statudol. O ganlyniad, methodd y Cyngor ymateb i’r pryderon a godwyd neu o fewn amserlen ei drefn gwyno. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss L.

Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymddiheuriad i Miss L am yr oedi wrth ymateb i’w phryderon, i uwchgyfeirio ei phryderon o dan ei weithdrefn cam 2, aci gyhoeddi ymateb i gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith.