Dyddiad yr Adroddiad

03/12/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202403451

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs K fod y Cyngor yn bygwth dwyn camau gorfodi yn ei herbyn hi a’i gŵr, Mr K, am beidio â chael caniatâd adeilad rhestredig mewn perthynas ag addasiadau i’w heiddo. Dywedodd Mrs K fod swyddog cynllunio a ymwelodd â’r eiddo ym mis Gorffennaf 2019 wedi dweud wrthynt na fyddai angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer y gwaith adeiladu arfaethedig. Dywedodd fod ymchwiliad cydymffurfio wedi dod i ben yn 2023 gan ddod i’r casgliad nad oedd unrhyw achosion o dorri amodau, ond bod ymchwiliad newydd wedi cael ei agor yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ar ôl iddynt gytuno i werthu’r eiddo. Dywedodd fod y Cyngor wedi rhoi gwybod i bartïon i’r gwerthiant am yr ymchwiliad cydymffurfio, gan achosi i’r gwerthiant fethu. Dywedodd, yn ogystal â’r gofid a’r pryder a achoswyd, eu bod wedi wynebu costau cyfreithiol sylweddol, gan gynnwys setlo hawliad am dorri contract.

Nododd yr Ombwdsmon fod ymchwiliad annibynnol a gynhaliwyd yng Ngham 2 proses gwyno’r Cyngor wedi cadarnhau cwyn Mrs K bod methiant wedi bod i ddarparu arweiniad priodol i Mr a Mrs K mewn perthynas â chaniatâd adeilad rhestredig. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd yr iawn ariannol a gynigiwyd yn flaenorol gan y Cyngor yn ddigonol, gan ystyried, pe baent wedi cael cyngor priodol, ei bod yn annhebygol y byddai Mr a Mrs K wedi ceisio gwerthu’r eiddo.

Wrth setlo’r gŵyn i’r Ombwdsmon, cytunodd y Cyngor i ymddiheuro am effaith ei fethiant i ddarparu gwybodaeth briodol am yr angen am ganiatâd adeilad rhestredig, ac i wneud taliad iawndal ariannol o £1,044. Roedd hyn yn cynnwys £294 a gynigiwyd yn flaenorol gan y Cyngor, a £750 yn ychwanegol mewn perthynas â’r trallod sylweddol a achoswyd i Mr a Mrs K gan fethiannau’r Cyngor.