Dyddiad yr Adroddiad

10/17/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202304335

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr a Mrs W nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol wedi dilyn y broses gywir wrth roi caniatâd cynllunio ar gyfer adeilad ar y tir gerllaw eu tir nhw.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi bod mewn cysylltiad â Mr a Mrs W, nad oedd eu pryderon wedi’u cofnodi fel cwyn ffurfiol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr a Mrs W. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr a Mrs W gydag ymddiheuriad ac esboniad am y methiant i gofnodi eu pryderon fel cwyn ffurfiol, cynnig i dalu iawndal o £50 am yr amser a’r drafferth o wneud eu cwyn i’r Ombwdsmon a chyhoeddi ymateb i gwyn Cam 2 o fewn 4 wythnos.