Cwynodd Mr X fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi methu ag ymateb i’w bryderon ynghylch adeilad newydd wrth ymyl ei eiddo.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i bryderon Mr X, er iddo dderbyn cydnabyddiaeth bod ei bryderon wedi cael eu trosglwyddo i’r tîm cwynion. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hwn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai, o fewn tair wythnos, yn ymateb i’r gŵyn, a ddylai gynnwys ymddiheuriad ac esboniad am beidio ag ymateb i bryderon Mr X.