Dyddiad yr Adroddiad

22/01/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202508528

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi methu ymateb i’r gŵyn a gyfeiriwyd at y Cyngor gan ein swyddfa ym mis Mehefin 2025.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ymateb i’r gŵyn a wnaed, a dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor, o fewn pythefnos, ymateb i’r gŵyn gan gynnwys ymddiheuro am yr oedi, esbonio’r rheswm dros hynny, a chynnig iawndal o £100 i gydnabod yr oedi a fu. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny.