Dyddiad yr Adroddiad

01/15/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202307706

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B fod Cyngor Bro Morgannwg wedi methu ag ymateb i’w chŵyn Cam 2, a wnaeth iddynt ar 27 Medi 2023.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cofnodi cwyn Mrs B oherwydd methiant system a nododd yn anghywir fod e-bost Mrs B yn SBAM, a’i fod felly wedi ei ddileu o’r system ar ôl 30 diwrnod. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ar gais yr Ombwdsmon, cytunodd y Cyngor i ysgrifennu at Mrs B i ymddiheuro ac esbonio’r methiant i gofnodi ei chŵyn Cam 2, cynnig £50 o iawndal am ei hamser a’i thrafferth yn cwyno wrth yr Ombwdsmon a chyflwyno ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.