Dyddiad yr Adroddiad

02/05/2024

Achos yn Erbyn

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202308086

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr L fod Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi methu ag ymateb i’w gŵyn am achos honedig o gwympo coed yn anghyfreithlon, a wnaeth i’r Awdurdod yn wreiddiol ym mis Awst 2023.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn i’r Awdurdod ymateb i gŵyn Mr L a’i fod wedi methu ei ddiweddaru’n briodol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr L. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb yr Awdurdod i ymddiheuro i Mr L am yr oedi ac am fethu â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo, esbonio’r rhesymau dros yr oedi, cynnig talu iawndal iddo o £50 ac i ddarparu ei ymateb i’r gŵyn o fewn 10 wythnos.