Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn am ymateb Cyngor Caerdydd i ganfyddiad y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (SRS) bod Ardal Gemau Amlddefnydd (MUGA) yn achosi niwsans sŵn statudol a bod y sŵn a achoswyd gan MUGA y Cyngor yn cael effaith sylweddol ar fywyd yr achwynydd.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn briodol i gasgliadau’r SRS ac nad oedd wedi cymryd camau priodol i leihau’r niwsans sŵn statudol. Canfu’r Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra i’r achwynydd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn drwy ofyn i’r Cyngor gymryd camau i sicrhau bod y niwsans statudol yn cael ei leihau.