Dyddiad yr Adroddiad

17/05/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Siriol Blaenau Gwent

Pwnc

Datgelu a chofrestru buddiannau

Cyfeirnod Achos

202208542

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn y gallai aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bwrdeistref  Siriol Blaenau Gwent (“y Cyngor”) fod wedi torri’r Cod ymddygiad. Honnwyd bod yr Aelod wedi cymryd rhan yng nghais cynllunio’r Achwynwr er i dîm cyfreithiol y Cyngor ei gynghori yn erbyn hynny.

Yn ystod yr ymchwiliad, cawsom wybod gan yr Achwynydd ei fod yn dymuno tynnu ei gŵyn yn ôl. Wrth benderfynu a fyddai parhau â’r ymchwiliad er budd y cyhoedd, ystyriwyd nifer o ffactorau, yn benodol, nad oes gan yr Aelod hanes o gwynion tebyg, dymuniadau’r Achwynydd, ac nad oedd effaith gweithredoedd yr Aelod yr yn yr achos hwn yn ymestyn y tu hwnt i gyfranogiad mewn materion yn ymwneud â’r Achwynydd ac nad oedd yn effeithio yn negyddol ar y cyhoedd, nac yn codi materion ehangach o bryder.

Roedd hefyd yn parhau i fod yn aneglur faint o effaith a gafodd cyfranogiad yr Aelod ar y cais cynllunio, o ystyried y rhoddwyd cymeradwyaeth a’i fod yn parhau i symud ymlaen.

Felly, penderfynwyd rhoi gorau i’r ymchwiliad.