Dyddiad yr Adroddiad

09/11/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Cyllid a Threthiant

Cyfeirnod Achos

202303535

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs V fod Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn mynd ar ôl ei mam am ôl-ddyledion Treth Gyngor ar gam.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’r cwynion a godwyd o dan ei weithdrefn Cwynion Corfforaethol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs V. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael y Cyngor i gytuno i roi ymddiheuriad ac eglurhad am y methiant i gyflwyno ymateb i gŵyn ac i roi sicrwydd bod camau wedi cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r gwall rhaglennu a ganfuwyd. Hefyd, cytunodd y Cyngor i dalu iawndal o £50 i Mrs V ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn cyn pen 2 wythnos.