Dyddiad yr Adroddiad

02/09/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Biwmares

Pwnc

Cyfleusterau Cymunedol. Adloniant a Hamdden

Cyfeirnod Achos

202308299

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Tref Biwmares wedi methu ag ymateb i gŵyn y cyfeiriodd yr Ombwdsmon ati ym mis Hydref 2023 ynghylch plot claddu. Dywedodd Mr A nad oedd wedi cael unrhyw gyswllt gan y Cyngor Tref.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor Tref wedi methu ag ymateb i’r gŵyn yr oedd wedi cyfeirio ati. Yn ogystal, roedd Polisi Cwynion y Cyngor Tref ar ei wefan yn anghywir gan nad oedd yn egluro sut y gallai aelodau o’r cyhoedd wneud cwyn iddo, gan gyfeirio aelodau o’r cyhoedd yn uniongyrchol at yr Ombwdsmon yn lle hynny. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor Tref i ymddiheuro i Mr A, egluro’r rhesymau dros yr oedi a darparu ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos. Cytunodd y Cyngor Tref hefyd i adolygu a diweddaru ei Bolisi Cwynion o fewn 12 wythnos. Dylai’r Polisi Cwynion newydd egluro sut y gellir cyflwyno cwynion i’r Cyngor a’r broses y bydd y Cyngor yn ei dilyn wrth ddelio â chwynion o’r fath.