Dyddiad yr Adroddiad

10/12/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Cyfathrebu gwael/ Dim cyfathrebu neu fethiant i ddarparu gwybodaeth

Cyfeirnod Achos

202507539

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs L nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi rhoi’r cofnodion meddygol yr oedd y Bwrdd Iechyd yn dibynnu arnynt iddi wrth ymchwilio i’w chŵyn, ac mae gan Mrs L hawl i’r rhain o dan y broses gwyno ‘Gweithio i Wella’.

Canfu’r Ombwdsmon, ar ôl cael ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, fod Mrs L wedi gofyn am gopi o’r cofnodion meddygol yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi dibynnu arnynt wrth ymchwilio i’w chŵyn. Bu oedi sylweddol cyn i’r Bwrdd Iechyd roi’r cofnodion perthnasol i Mrs L, a dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs L. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs L am yr oedi ac esbonio’r rhesymau dros hynny, ac i roi’r cofnodion perthnasol i Mrs L o fewn 4 wythnos.