Cwynodd Miss X fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Chwefror 2025 yn ymwneud â dyrannu tai a lleithder yn yr eiddo.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ystyried y gŵyn o dan ei weithdrefn gwyno ffurfiol. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hwn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon am gytundeb y Cyngor, o fewn 3 wythnos, i gynnig ymddiheuriad i Miss X am yr oedi cyn ymateb ac iddynt ymdrin yn ffurfiol â’r pwyntiau a godwyd yn ei chŵyn. Sicrhaodd y cytundeb hwn. Bydd yr ymateb i’r g?yn hefyd yn cadarnhau bod yr atgyweiriadau a adroddwyd wedi’u cwblhau ac yn cynghori y bydd y Cyngor yn adolygu ei chais am d? yn unol â’i weithdrefn ac yn cadarnhau’r broses gwyno i’w dilyn cyn uwchgyfeirio’r gŵyn ymhellach gyda’n swyddfa.