Bu i Ms A gwyno am y camau a gymerwyd gan Gyngor Caerdydd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, am broblemau â’i bwyler, ac am yr wybodaeth a ddarparwyd iddi am ei dewisiadau tai.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cymryd rhai camau i fynd i’r afael â phryderon Ms A, ond bod rhai problemau’n parhau. Nid oedd Ms A ychwaith yn sicr pa ddewisiadau tai a chymorth a oedd ar gael iddi.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor gytuno i ddarparu i Ms A eglurhad a gwybodaeth ynghylch ei dewisiadau tai a’r cymorth a oedd ar gael iddi cyn pen pythefnos. Cytunodd y Cyngor i wneud y pethau hyn. Cytunodd hefyd i ymchwilio’n llwyr i unrhyw ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol a oedd yn weddill ac i ddarparu i Ms A ymateb cyn pen pedair wythnos. Cytunodd y Cyngor hefyd i ymchwilio i’r pryderon a fynegwyd gan Ms A ynghylch ei bwyler ac i ddarparu ymateb cynhwysfawr ynghylch y mater hwn, gan gynnwys cynllun gweithredu ar gyfer unrhyw waith gofynnol, cyn pen pedair wythnos.