Bu i Ms A gwyno bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu ag ymateb i gŵyn a wnaed ganddi ar lafar ym mis Awst 2024 ynghylch cymorth tai.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er i’r Cyngor ffonio Ms A yn ôl i drafod ei phryderon, fod yr alwad wedi’i chofnodi fel cais am wasanaeth yn hytrach na chwyn. Penderfynodd ddatrys y gŵyn heb ymchwilio.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor gytuno i gysylltu â Ms A cyn pen wythnos i gadarnhau telerau ei chwyn. Cytunodd y Cyngor i wneud hyn. Cyn pen dwy wythnos arall, bydd yn anfon ei ymateb i’r gŵyn a fydd yn rhoi sylw i’r pwyntiau y cytunwyd arnynt.