Cwynodd Ms A nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ystyried anabledd ac anghenion cartrefu ei mab yn briodol. Dywedodd fod ymddygiad ei mab yn cael ei effeithio’n ddifrifol gan eu sefyllfa gartrefu bresennol. Roedd Ms A yn pryderu bod y Therapydd Galwedigaethol wedi argymell cartref anaddas yn y dyfodol oherwydd nad oeddent wedi cyfarfod â’i mab i asesu ei anghenion.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod proses y Cyngor ar gyfer penderfynu a ddylai asesiadau Therapi Galwedigaethol gael eu cynnal yn bersonol neu eu cwblhau ar bapur, yn aneglur ac y gallai fod yn annheg. Roedd asesiad y Cyngor o anghenion mab Ms A wedi dibynnu’n llwyr ar wybodaeth ysgrifenedig a ddarparwyd gan weithwyr proffesiynol eraill a Ms A, ond roedd hefyd wedi diystyru rhywfaint o’r wybodaeth a ddarparwyd y dywedodd Ms A ei bod yn bwysig. Dywedodd yr Ombwdsmon efallai na fyddai dibynnu ar wybodaeth a ddarperir gan weithwyr proffesiynol eraill yn unig yn darparu gwybodaeth gywir am amgylchedd y cartref ac anghenion cysylltiedig. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor o fewn mis i ymddiheuro i Ms A, trefnu asesiad Therapi Galwedigaethol gyda Ms A a’i mab gartref, adolygu’r system bresennol ar gyfer penderfynu a ddylai asesiadau fod yn bersonol ac ystyried y gofyniad i gynhyrchu canllawiau ysgrifenedig.