Dyddiad yr Adroddiad

21/07/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Ceisiadau. Dyraniadau. Trosglwyddo a chyfnewidiadau

Cyfeirnod Achos

202409520

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms M nad oedd y Cyngor wedi ystyried ei hanghenion pan wnaeth ddyrannu eiddo iddi. Dywedodd nad oedd ei heiddo presennol yn briodol gan fod grisiau yn y ddau bwynt mynediad, ac roedd y Cyngor wedi cau’r fynedfa a oedd yn arwain i’r maes parcio cyffredin. Dywedodd Ms M ei bod yn y broses o gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y Cyngor ynglŷn â’r fynedfa sydd wedi’i chau, felly ni allai’r Ombwdsmon ystyried y rhan hon o’r gŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Ms M ynglŷn â’r fynedfa i’r maes parcio cyffredin, ond nad oedd wedi rhoi sylw i’w chŵyn ynglŷn ag addasrwydd ei heiddo ar gyfer ei hanghenion pan gafodd ei ddyrannu. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ddarparu ymateb i’r gŵyn cyn pen 6 wythnos, ac ymddiheuro wrth Ms M am beidio â rhoi sylw i’w chŵyn yn llawn. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny. Cytunodd y Cyngor hefyd i gynnig iawndal o £50 i gydnabod yr amser a’r drafferth roedd gwneud y gŵyn wedi ei olygu i Ms M.