Cwynodd Miss A nad oedd y Cyngor wedi rhoi ymateb iddi i gŵyn ffurfiol a gyflwynodd mewn perthynas â chasgliadau gwastraff. Dywedodd Miss A, er bod sicrwydd wedi’i roi dros sawl galwad ffôn gan y Cyngor, ar adeg cyflwyno ei chŵyn, nad oedd ei gwastraff wedi’i gasglu am 6 wythnos.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â rhoi ymateb i Miss A i’w chŵyn yn ogystal â gweithredu ar y sicrwydd a roddwyd iddi ynghylch casglu ei gwastraff. Gan fod Miss A wedi’i chofrestru fel person anabl, gyda phroblemau gyda’i symudedd, nid yw wedi gallu cael gwared ar y gwastraff ei hun. Derbyniodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â chasglu gwastraff Miss A na rhoi ymateb iddi a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb Cyngor Sir y Fflint i gysylltu â Miss A o fewn 1 wythnos i drefnu casglu ei gwastraff. Cytunodd Cyngor Sir y Fflint hefyd i ysgrifennu llythyr ymddiheuro, o fewn 2 wythnos, at Miss A am eu methiannau yn ogystal â chwblhau ymchwiliad, o fewn 4 wythnos, i’r rheswm pam na chasglwyd ei gwastraff. O fewn pythefnos i gwblhau’r ymchwiliad, cytunodd Cyngor Sir y Fflint i weithredu mesurau ymarferol i fynd i’r afael â’u methiannau ac i ysgrifennu at Miss A yn nodi canlyniad a chamau gweithredu’r ymchwiliad.