Dyddiad yr Adroddiad

17/11/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202503755

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs D nad oedd Cyngor Caerdydd yn casglu ei gwastraff yn rheolaidd a’i bod wedi cael gwybod nad oedd ei chyfeiriad wedi’i gofrestru ar ei wasanaeth “codi â chymorth”. Dywedodd Mrs D fod hyn wedi achosi “straen ac anghyfleustra enfawr” iddi.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi parhau i fethu casgliadau gwastraff Mrs D er gwaethaf iddi wneud cwyn ffurfiol. Fodd bynnag, erbyn i Mrs D gysylltu â’r Ombwdsmon, roedd ei gwastraff yn cael ei gasglu. Serch hynny, penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gysylltu â Mrs D i ymddiheuro, cynnig £150 i Mrs D am yr anghyfleustra a achoswyd gan y casgliadau gwastraff a fethwyd a gorfod mynd at yr Ombwdsmon, a monitro casgliadau gwastraff Mrs D dros y 12 wythnos nesaf.