Dyddiad yr Adroddiad

11/11/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202501872

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am amrywiol faterion ynghylch casglu gwastraff Cyngor Caerdydd a chyflwr yr ardaloedd cymunedol/biniau yn y bloc o fflatiau lle’r oedd hi’n denant.

Pan ofynnodd yr Ombwdsmon am sylwadau’r Cyngor ar y pryderon a godwyd, cynigiodd ymweliad â’r safle yn cynnwys Swyddogion Tai a Gwastraff, gyda chroeso i Ms A fod yn bresennol, i werthuso pa addasiadau neu drefniadau amgen fyddai’n briodol. Byddai crynodeb ysgrifenedig o ganfyddiadau a safbwynt ffurfiol y Cyngor yn dilyn yr ymweliad safle hwn.

Yn hytrach nag ymchwilio i’r gŵyn, cafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i sefydlu’n bendant, o fewn 1 mis, a oedd Ms A eisiau mynychu’r ymweliad â’r safle. Pe bai Ms A yn awyddus i fynychu’r ymweliad â’r safle, byddai’r Cyngor yn trefnu, o fewn 3 mis, i’r cyfarfod safle hwnnw ddigwydd. Os nad oedd Ms A yn awyddus i fynychu’r cyfarfod safle, byddai’r Cyngor yn trefnu ymweliad â’r safle, o fewn 2 fis, er mwyn nodi a datrys y pryderon. Yn y naill achos neu’r llall, byddai’r Cyngor yn cyhoeddi ei grynodeb ysgrifenedig o fewn 1 mis i’r ymweliad â’r safle/cyfarfod.