Cwynodd Miss A nad oedd y Cyngor wedi casglu ei gwastraff hylendid, er gwaethaf y sicrwydd a roddwyd iddi yn ymateb ysgrifenedig y Cyngor i’w chŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi dweud wrth Miss A y byddai criw yn dychwelyd i gasglu ei gwastraff hylendid a byddai mesurau monitro ymarferol, fel galwadau cadarnhau gan y criw i oruchwyliwr bob tro y byddai ei gwastraff yn cael ei gasglu dros gyfnod o amser, yn cael eu gweithredu, na chasglwyd gwastraff hylendid Miss A. Derbyniodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â gweithredu ar y sicrwydd a roddwyd i Miss A a sicrhau casgliadau gwastraff hylendid cyson.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gysylltu â Miss A, o fewn 1 wythnos, i drefnu i’w gwastraff gael ei gasglu ac i anfon llythyr ymddiheuriad am eu methiannau o fewn pythefnos at Miss A. Cytunodd y Cyngor hefyd i gwblhau ymchwiliad, o fewn 4 wythnos, i’r rheswm pam na chasglwyd gwastraff Miss A. O fewn pythefnos i gwblhau’r ymchwiliad, cytunodd y Cyngor i weithredu mesurau ymarferol i fynd i’r afael â’u methiannau ac ysgrifennu at Miss A yn nodi canlyniad a chamau gweithredu’r ymchwiliad.