Dyddiad yr Adroddiad

30/10/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202502944

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms Z fod Cyngor Caerdydd wedi methu dro ar ôl tro â darparu’r gwasanaeth casglu gwastraff â chymorth. Cwynodd hefyd fod y Cyngor wedi gwrthod ad-dalu costau gorfod trefnu casgliad gwastraff preifat.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â chasglu gwastraff Ms Z er gwaethaf ei bod wedi’i chofrestru ar gyfer casgliadau â chymorth. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Ms Z. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i drefnu casgliad ar unwaith o’r holl wastraff a gollwyd. Cytunodd hefyd, o fewn pythefnos, i ystyried anfonebau a dderbyniwyd gan Ms Z ar gyfer y casgliadau gwastraff preifat ac i gynnig iawndal ariannol o £100 am amser a thrafferth.