Cwynodd Mr A fod Cyngor Sir y Fflint (“y Cyngor”) wedi methu â chasglu ei wastraff ac ymateb i’w gŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cofnodi 17 o achosion o fethu â chasglu gwastraff o fewn cyfnod o 6 mis, er gwaethaf cwyn Mr A ym mis Gorffennaf 2025. Ni allai’r Cyngor ddod o hyd i’r ymateb i gŵyn Mr A. Yna caeodd y Cyngor gŵyn Mr A ym mis Awst 2025 fel rhan o broses lanhau, er bod 8 o gasgliadau wedi cael eu methu ers cwyn wreiddiol Mr A. Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor ers hynny wedi cymryd camau i fonitro casgliadau Mr A yn ofalus am gyfnod, nad oedd wedi ystyried effaith y casgliadau a gollwyd ar Mr A, o ran gorfod gwaredu ei wastraff ei hun a mynd ar drywydd y Cyngor dro ar ôl tro.
Felly, yn hytrach nag ymchwilio, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i wneud taliad o £250 i Mr A am yr amser a’r drafferth o fewn pythefnos.