Dyddiad yr Adroddiad

03/07/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202500669

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms D ynglŷn â phroblemau parhaus â gwasanaeth casglu sbwriel â chymorth Cyngor Sir y Fflint. Yn ôl Ms D, prin bod ei gwastraff a’i heitemau ailgylchu wedi cael eu casglu ers dechrau’r gwasanaeth tua mis Medi 2024.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod trefniadau monitro wedi’u rhoi ar waith, bod casgliadau’n cael eu colli o hyd. Ambell waith, roedd gwastraff ac eitemau ailgylchu wedi bod yn pentyrru yng nghartref Ms D. Roedd Ms D yn gorfod ffonio’r cyngor, yn wythnosol, ynglŷn â’r mater. Roedd hyn yn achosi straen ac anhwylustod i Ms D, ac roedd hynny yn ei dro yn effeithio ar ei hiechyd corfforol a meddyliol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor, cyn pen 4 wythnos, atgoffa’r staff y dylid casglu gwastraff ac eitemau ailgylchu Ms D yn unol â gwasanaeth Casglu â Chymorth y Cyngor a monitro casgliadau dros gyfnod o 12 wythnos. Cytunodd y Cyngor i wneud hyn. Cytunodd y Cyngor hefyd i gyflwyno ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms D am y methiannau parhaus wrth gasglu ei gwastraff a’i heitemau ailgylchu, a chynnig iawndal o £125 am yr anhwylustod a achoswyd a’r amser a’r drafferth o orfod cyflwyno cwynion.