Dyddiad yr Adroddiad

10/24/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202305188

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr Q bod Cyngor Gwynedd wedi methu casglu ei sbwriel a’i ailgylchu ar sawl achlysur.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cwblhau eu proses gwyno. Dywedodd ei bod yn credu fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol i Mr Q.

Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad. Gofynnodd a derbyniodd gytundeb y Cyngor i uwchgyfeirio’r gŵyn a chyhoeddi ymateb Cam 2 o fewn pythefnos.