Dyddiad yr Adroddiad

28/01/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202508149

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr F fod Cyngor Caerdydd wedi rhoi rhybudd amhriodol iddo am “ddympio gwastraff yn anghyfreithlon” y tu allan i’w eiddo, a bod y rhybudd ac ymateb y Cyngor i’w gŵyn yn cynnwys gwybodaeth anghywir am ei ddiwrnod casglu gwastraff. Cwynodd Mr F hefyd am ddiffyg eglurder ynghylch lliwiau cywir y bagiau gwaredu gwastraff y dylid eu defnyddio.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd hi’n briodol rhoi rhybudd i Mr F, gan fod y Cyngor wedi datgan yn anghywir fod ei ddiwrnod casglu ddiwrnod yn hwyrach nag y mae. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi gofid a rhwystredigaeth i Mr F. Canfu’r Ombwdsmon hefyd nad oedd gwefan y Cyngor yn egluro lliwiau cywir y bagiau gwaredu gwastraff y dylid eu defnyddio, a dywedodd fod hyn wedi achosi dryswch i Mr F. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor, o fewn 2 wythnos, ymddiheuro i Mr F am y gofid a’r anghyfleustra a achoswyd iddo gan yr ohebiaeth a gafodd ac am y camgymeriad ynghylch ei ddyddiad casglu gwastraff, rhoi sicrwydd i Mr F na fyddai’r ohebiaeth anghywir yn cael unrhyw effaith arno yn y dyfodol (pe bai’n digwydd rhoi’r gwastraff anghywir i’w gasglu yn y dyfodol), a chynnig iawndal o £50 iddo. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny. Cytunodd y Cyngor hefyd, o fewn 8 wythnos, i ddiweddaru’r canllawiau ar ei wefan yn egluro lliwiau cywir y bagiau gwaredu gwastraff y dylid eu defnyddio.